New Welsh Wave Comedy Tour
Mae Little Wander yn falch o gyflwyno taith gomedi New Welsh Wave. Ymunwch â ni am noson gyda’r gorau o gomedi Cymreig a thalentau anhygoel sydd wedi eu meithrin yn y wlad, yn cynnwys comedïwyr adnabyddus, a rhai nad ydych yn eu hadnabod eto!
Mae'r daith hon yn bosibl oherwydd Cymru Greadigol.
Arweinir y noson gan Robin Morgan, gyda Siân Docksey, Anna Thomas, Bella Humphries a Matt Rees.
Robin Morgan
Mae Robin yn ddigrifwr stand-yp Cymreig, yn awdur ac yn actor. Mae wedi ymddangos ar Mock The Week (BBC Two), The News Quiz, The Now Show (BBC Radio 4) ac wedi cyd-greu Ellie Taylor’s Safe Space (BBC Radio 4).
“Bloody funny. Well-written, hard-working stand-up from a massively likeable performer who must surely be on the verge of nationwide fame.” - Chortle
Siân Docksey
Ar ôl treulio’r Edinburgh Fringe yn gwneud dawnsio polyn yn ddoniol i adolygiadau gwych (★★★★★ “Honestly breathtaking” - The Wee Review, ★★★★★ “Chaos that has the audience in stitches” Voice Magazine) mae Siân Docksey yn dychwelyd at ei brand unigryw o stand-up hwyliog rhyfedd gyda zing gwleidyddol. Swrrealaeth offbeat a llinellau miniog yn cael eu cyflwyno gyda holl swyn stiwardes awyr.
Fel y’i gwelwyd ar BBC 3.
British Comedy Guide Edinburgh Fringe Picks 2023
“Joy and bewilderment in equal measure” - The Skinny
Anna Thomas
Yn wreiddiol o Borth Tywyn yn ne Cymru, enillodd Anna wobr y BBC New Comedy Award yn 2021. Ers hynny, mae hi wedi cefnogi pobl fel Joe Lycett, Kiri Pritchard-McLean, Hal Cruttenden, Lauren Pattison, a Max Fosh. Enwebwyd Anna hefyd ar gyfer gwobr Sean Lock gyntaf Channel 4 yn 2023.
“She has the appealing air of not quite being of this world, but whatever planet she’s from, they know funny.” Chortle
Bella Humphries
Mae Bella yn gomedïwr, actor a gwisgwr dyngarîs.
Dewch i’w gwylio hi’n bod yn “ddymunol mewn ffordd ddigywilydd” wrth iddi adrodd hanesion am symud i Gymru a gofyn yr hen gwestiwn..pwy yn union ydw i?
Fel y’i clywyd ar BBC Radio Wales a BBC Sounds.
“Bella is in many ways the comedian who misogynistic boomer men fear – full of confidence, not afraid to broach graphic content, and wittier than any of them could ever be.” Blizzard Comedy
Matt Rees
Mae’r comedïwr o Gymru, Matt Rees, wedi ennill gwobrau a chreu gwefr aruthrol yn y sîn comedi stand-yp dros y blynyddoedd diwethaf. Gyda'i frand unigryw o jôcs crefftus a chyflwyniad sur, mae wedi ennill canmoliaeth uchel gan gynulleidfaoedd a beirniaid. Wedi cefnogi Elis James ac yn enwebai y Chortle Award.
Canllaw Oedran: 16+ (peth rhegi Hyd)