Rusty Shackle
Mae Rusty Shackle, y grŵp indi ‘roots’chwe aelod o Gymru, wedi bod yn meddiannu llwyfannau ledled y byd ers 2010. Gyda sain gwerin ‘roots’ unigryw ynghyd â chymysgedd gwefreiddiol o ffidil nwyfus, gitarau slic, mandolinau bachog ac alawon banjos gyda churiadau tynn drymiau a bas yn sail i’r cyfan, maen ganddynt dipyn o rym.
Mae'r band wedi denu criw ymroddgar o ffans gyda'u sioeau byw cyfareddol sy’n gwneud i chi deimlo’n dda, ac fe enillon nhw wobr Ffefryn Gwerin Cymru yng Ngwobrau Gwerin Cymru 2023. Aeth eu halbwm diweddaraf “Under a Bloodshot Moon” yn syth i Rif 2 yn Siart Albymau Gwerin Swyddogol y DU heb unrhyw hyrwyddo gan label, gan amlygu cefnogaeth frwd eu ffans.
Mae Rusty Shackle wedi teithio’n helaeth o gwmpas y DU, Ewrop ac UDA ac maen nhw’n ymddangos yn fynych ar gylchdaith y gwyliau cerdd. Maen nhw'n cyflwyno cyffro bob tro maen nhw'n camu i’r llwyfan ac yn rhoi popeth sydd ganddyn nhw er mwyn cipio’ch calon gyda'u cerddoriaeth.
£15