Blazin' Fiddles 2023
Ffurfiwyd Blazin’ Fiddles, un o’r grwpiau ffidl mwyaf cynhyrchiol yn y byd, ar gyfer taith untro o gwmpas Ucheldiroedd yr Alban ym 1999, ac maen nhw dal yn perfformio ledled y wlad dau ddegawd yn ddiweddarach.
Gan gwmpasu detholiad prin a meistrolgar o leisiau Ucheldir ac Ynys amrywiol y ffidl, gyda setiau ensemble a solo a gefnogir gan gitâr a phiano pwerus, mae’r grŵp yn gwasgu holl rym, brwdfrydedd a sensitifrwydd cerddoriaeth draddodiadol yr Alban i mewn i un sioe.
Daw’r pedwar chwaraewr ffidl sef Bruce MacGregor o Inverness, Jenna Reid o Ynysoedd Shetland, Rua Macmillan o Nairn, a Kristan Harvey o Orkney, at ei gilydd gyda chyfeiliant heb ei ail gan Anna Massie ac Angus Lyon. Lle bynnag yw’r neuadd - mewn pentref yn Ucheldiroedd yr Alban neu Neuadd Frenhinol Albert - byddant yn sicr o greu’r sioe fwyaf egnïol a chynhesol, gan danio calonnau’r gynulleidfa.
Enillwyr lluosol gwobr Band Gwerin y Flwyddyn yn yr Alban - yn fwyaf diweddar yn 2019 - dyma i chi un o grwpiau gwerin mwyaf blaenllaw ac adnabyddus y wlad, sy’n mentro ymhell tu hwnt i’w gwreiddiau gogleddol dwfn.
£19 (£18)