SYMUD TRWY’R HAF Dathlu 40 mlynedd Cwmni Fflach | Celebrating 40 years of Fflach
YN CYMRYD LLE YNG NGHASTELL ABERTEIFI
JESS - CRYS - EINIR DAFYDD - CATSGAM
Drysau 6.00pm
Dechreuwyd Recordiau Fflach yng Ngorllewin Cymru ym 1981, gan y brodyr Richard a Wyn Jones, oedd hefyd yn aelodau o’r band Cymraeg ton newydd/pync, Ail Symudiad. Mae’r noson yn dathlu 40 mlynedd o Fflach, yn ogystal â thalu teyrnged i’r sylfaenwyr, a gyfrannodd gymaint i’r sîn gerddoriaeth Gymraeg.
Bydd y noson arbennig hon yn cynnwys cerddoriaeth fyw gan Jess, Crys, Einir Dafydd a Catsgam.
Band roc trwm o Resolfen yw Crys, a ffurfiwyd ym 1976 gan y brodyr Liam Forde a Scott Forde, ynghyd ag Alun Morgan. Ers eu record sengl gyntaf ym 1980 ar Click Records, aeth Crys ymlaen i ryddhau albymau ar labeli Sain a Fflach ac maen nhw’n dal i rocio mwy na 40 mlynedd yn ddiweddarach.
Ffurfiwyd Jess ym 1988 gan ffrwydro i’r sîn gerddoriaeth Gymraeg yn Eisteddfod Genedlaethol Casnewydd, Gwent. Rhyddhawyd tri albwm a dwy record sengl ganddynt ar label Fflach ac aethant ymlaen i ennill gwobrau niferus a theithio’n helaeth ledled Ewrop. Mae eu steil yn gymysgedd o roc trwm a phop melodig gyda llawer o alawon lleisiol.
Band o Dde Ddwyrain Cymru yw Catsgam, a ffurfiwyd ym 1997, gyda steil arbennig eu hunain o roc melodig gitâr wedi’i ffurfio o gwmpas cyfansoddi caneuon pwerus Rhys Harries a llais adnabyddedig Catrin Brooks. Recordiwyd pedwar albwm o ddeunydd gwreiddiol ar label “Fflach” gan arwain at ryddhau “Sgam” – y casgliad pen-blwydd yn 21 oed, ym mis Hydref 2018.
Yn ogystal, bydd Einir Dafydd, enillydd Wawffactor a Chân i Gymru yn perfformio fel rhan o’r noson arbennig hon yng Nghastell Aberteifi.