Parallel Mothers (15)
Pedro Almodóvar | Spain | 2021 | 123’
Mae dwy fenyw, Janis ac Ana, yn digwydd bod yn yr un ystafell ysbyty lle bydd y ddwy yn rhoi genedigaeth i’w babanod. Mae'r ddwy yn sengl ac yn feichiog ar ddamwain. Nid yw Janis, sy’n ganol oed, yn difaru ac mae hi'n llawn gorfoledd. Mae'r llall, Ana, sydd yn ei harddegau, yn ofnus, yn edifeiriol ac wedi dioddef trawma. Mae Janis yn ceisio ei hannog wrth iddynt symud yn llesg ar hyd coridorau'r ysbyty. Bydd yr ychydig eiriau mae’r ddwy yn eu cyfnewid yn yr oriau hyn yn ffurfio cysylltiad clos iawn rhyngddynt, sydd ar hap yn datblygu ac yn cymhlethu, ac yn newid eu bywydau mewn ffordd bendant.
£7.70 (£5.90)
** Archebu tocynnau o flaen llaw yn hanfodol. Archebu ar lein 24/7 mwldan.co.uk. Swyfddfa docynnau (ffôn yn unig) Dydd Mawrth - Dydd Sul 2-4pm 01239 621 200**