Royal Opera House: The Queen of Spades
Mae opera fwyaf uchelgeisiol Tchaikovsky yn cynnwys darnau o’i gerddoriaeth orau ac mae’n astudiaeth nerthol ar obsesiwn dinistriol. Mae Gherman wedi ei ddal rhwng y fenyw mae’n ei charu ac obsesiwn dinistriol. Mae The Queen of Spades yn seiliedig ar stori fer gan Pushkin gyda’r cynhyrchiad wedi ei osod ym 1890, blwyddyn premiere yr opera. Mae hwn yn bortread hynod ddiddorol o artist creadigol sydd wedi ei boenydio ac yn ddarn gafaelgar o chwedleua arddull gothig.
Gydag Isdeitlau Saesneg
£16 (£15)