Theatr Gen Byw: Macbeth (12A)
Theatr Genedlaethol Cymru
Mewn partneriaeth â Cadw a gyda chefnogaeth gan Chapter
DANGOSIAD ENCORE (AIL-BERFFORMIAD) O BERFFORMIAD A GIPIWYD YN FYW AR 14 CHWEFROR 2017
“Hyll yw’r teg, a theg yw’r hyll; Hofran yn yr aflan niwl a’r gwyll.”
Mae brenin yr Alban wedi gwobrwyo ei filwr mwyaf disglair yn hael. Ond mae bodau goruwchnaturiol wedi darogan i Macbeth anrhydedd lawer mwy. Pan fo ei wraig ddidostur yn gwirioni ar addewid o bŵer di-ben-draw, gan annog uchelgais cythreulig ei gŵr, mae ar ben arno, ac mae cynllun dieflig y ddau yn troi’n gyflafan waedlyd.
Cynhyrchiad safle-benodol Theatr Genedlaethol Cymru – yn fyw o Gastell Caerffili – o glasur Shakespeare wedi ei gyfieithu o’r newydd i’r Gymraeg gan y diweddar Gwyn Thomas.
Cast yn cynnwys Richard Lynch (Pobol y Cwm, Y Gwyll) fel Macbeth, a Ffion Dafis (Byw Celwydd, Rownd a Rownd) fel ei wraig ddi-drugaredd. Cyfarwyddwr: Arwel Gruffydd.
“... y mae pethau. Yn ddrwg ddechreuwyd, trwy ddrwg yn ymgryfhau.”
GYDAG IS-DEITLAU SAESNEG
theatr.cymru @TheatrGenCymru #MacbethThGC
Ffotograffydd: Mark Douet
![](https://mail.mwldan.cymru/sites/default/files/styles/logo/public/logos/TheatrGenByw_Logo_Black_0.png?itok=w7xeuazl)
![](/sites/all/themes/mwldan/images/star.png)
![](/sites/all/themes/mwldan/images/star.png)
![](/sites/all/themes/mwldan/images/star.png)
![](/sites/all/themes/mwldan/images/star.png)