SIX: THE MUSICAL LIVE! (12A AS LIVE TBC)

Yn ddiamau, Six yw sioe gerdd fwyaf llwyddiannus Prydain yn y degawd diwethaf. Mae Six wedi bod yn stori lwyddiant Prydeinig, yn ffrwydrad agwedd byr, eofn, electro-pop sy’n gweld chwe gwraig Harri VIII yn mynd benben â’i gilydd mewn gornest hynod ddifyr, diva yn erbyn diva, pob un ohonynt yn ddioddefwyr ym mywyd carwriaethol gwallgo ein cyn frenin. Mae‘r perfformiad hwn a gafodd ei ffilmio‘n arbennig, a’i recordio’r llynedd yn Theatr Vaudeville, yn nodi aduniad arbennig chwe brenhines wreiddiol y West End.

£15 (£14)