GREEN BORDER (15)

Agnieszka Holland | Poland-France-Czech Republic-Belgium | 2023 | 152’

Tua 30 mlynedd ar ôl i Agnieszka Holland, sydd wedi cael ei henwebu am Oscar deirgwaith, wneud Europa Europa, mae hi nôl gyda ffilm nodwedd bwerus, amserol a gwobrwyedig sy’n siarad â’r galon wrth iddi fynd i’r afael â mudo byd-eang gyda brys trawiadol. Yn ddiysgog yn ei harchwiliad o'r argyfwng mudo presennol, mae Green Border yn tynnu ar brofiadau bywyd go iawn ffoaduriaid yn teithio trwy'r goedwig gyntefig ar y ffin rhwng Gwlad Pwyl a Belarws i geisio lloches yn yr UE. Mae'r materion yn rhai gwleidyddol a strategol, ond yma, mae'r ffocws ar berthnasoedd rhyngbersonol a phrofiad bob dydd.

£8.40 (£7.70) (£5.90)

 


Bydd yr elw o werthu tocynnau i’r rheiny nad ydynt yn aelodau yn cael ei roi i’r

sefydliad hawliau dynol Amnest Rhyngwladol. Yn ogystal, bydd ganddynt stondin yn y cyntedd.