Tharlo (PG)

Pema Tseden, China, 2015 124’

Wedi ei ffilmio’n drawiadol mewn du a gwyn, mae gwaith y gwneuthurwr ffilm o Dibet, Pema Tseden, yn archwilio hunaniaeth, byw ar y cyrion ac unigrwydd ymysg wyneb newidiol Tibet gyfoes. Mae’r ffilm hon a ffilmiwyd yn gelfydd yn bortread o fugail o’r enw Tharlo, sy’n treulio ei ddiwrnodau’n croesi llwyfandir eang Tibet yn ardal Amdo. Pan mae’n mentro i’r ddinas i gasglu cerdyn adnabod a roddwyd gan y llywodraeth, mae’n cwrdd â merch ifanc ac mae cyfarfod llawn temtasiwn yn ei dywys ar siwrnai ddwys o hunansylweddoliad. 

IS-DEITLAU

Mae dangosiadau y Gymdeithas Ffilm am ddim i Aelodau y Gymdeithas Ffilm!

Bydd aelodau ac aelodau cysylltiol hefyd yn derbyn disgownt sylweddol oddi ar brisiau dangosiadau arferol (heb fod yn ddangosiadau CFfThM) yn y Mwldan. e-bostiwch tmfs@mwldan.co.uk neu cliciwch yma i weld sut gallwch fwynhau mwy o ffilmiau am lai o arian!  

£7.10 (£5.40)