Aftersun (12A)
Charlotte Wells | UK | USA | 2022 | 102’
Mae Aftersun, y ffilm gyntaf syfrdanol gan yr awdur-gyfarwyddwr Albanaidd Charlotte Wells, yn cyfosod stori obeithiol am ddod i oed gyda phortread teuluol ingol, teimladwy sy’n gadael argraff gofiadwy. Mewn cyrchfan wyliau di-raen ar ddiwedd y 1990au, mae Sophie (Frankie Corio), 11 oed, yn trysori amser prin gyda’i thad cariadus a delfrydyddol, Calum (yr enillydd BAFTA Paul Mescal, Normal People). Wrth i fyd o lasoed agosáu, allan o olwg Sophie, mae Calum yn boddi dan bwysau bywyd y tu hwnt i fod yn dad.
Ugain mlynedd yn ddiweddarach, mae atgofion tyner Sophie o’u gwyliau diwethaf yn dod yn bortread pwerus a chalonogol o’u perthynas, wrth iddi hi geisio cysoni’r tad yr oedd hi’n ei adnabod gyda’r dyn oedd yn ddieithr iddi, yn ffilm gyntaf wych ac emosiynol Charlotte Wells.
Enillydd Gwobr French Touch y Beirniaid yn Wythnos Beirniaid Cannes 2022.
£7.70 (£5.90)