Rowan Rheingans: Dispatches on the Red Dress
***Noder: Mae'r Digwyddiad hwn wedi'i ohirio a chawn dyddiad newydd yn fuan.***
Mae Dispatches on the Red Dress yn sioe newydd bersonol a gwrol gan yr ysgrifennwr caneuon sydd wedi ennill dwy wobr Gwerin BBC Radio 2, Rowan Rhenigans.
Mae ysgrifennu anturus newydd yn cyfuno â chynhesrwydd gig gwerin yn y sioe bersonol hon o’r galon, sydd mewn modd unigryw, yn gwau chwedleua cyfareddol gyda ffidl, banjo a chaneuon byw sy’n ymdoddi arddulliau o albwm unigol cyntaf Rowan The Lines We Draw Together.
Yn datod gorfoledd a phoen stori am ieuenctid ei mam-gu yn yr 1940au yn yr Almaen, mae Rowan yn dathlu actau bach o wrthsafiad, ac yn feiddgar, yn holi cwestiwn trafferthus am ein hoes: a ellir darganfod gobaith am ein dyfodol mewn llecynnau tywyllaf oll ein hanes?
£15 (£13) (£3 Mates Rates)



