Illyria: The Lost World
Gan Sir Arthur Conan Doyle
Mae pedwar anturiwr dewr, yn teithio i lwyfandir heb ei siartio yn Ne America. Yno darganfyddant blanhigion ac anifeiliaid y tu hwnt i’w breuddwydion, ac yna’n dod ar draws deinosoriaid brawychus a gredwyd oedd eisoes yn ddiflanedig. Ond pan gaiff eu camera ei ddinistrio mewn damwain, pa dystiolaeth gallant ddangos i brofi bod y creaduriaid hyn yn wir bodoli? Oni bai, wrth gwrs, eu bod yn dod â sbesimenau byw yn ôl i Lundain mewn cewyll “amhosibl eu torri” i’w harddangos i’r cyhoedd syn. Beth allai fynd o’i le?
Yn addas i 8+
Amser Rhedeg: 1 awr 50 muned yn cynnwys egwyl o 20 muned
GWYBODAETH HANFODOL
Bydd gerddi’r Castell ar agor awr cyn amser cychwyn y perfformiad.
Dewch â’ch seddau cefn isel eich hun neu rygiau a dillad cynnes.
Bydd lluniaeth ar gael ar y safle yn y digwyddiadau hyn. . Croeso i chi ddod â phicnic i’w fwynhau.
Mae mynediad cadair olwyn i’r safle perfformio. Nid oes unrhyw barcio cyhoeddus ar y safle.
Caiff perfformiadau eu llwyfannu mewn pob tywydd ond y gwaethaf. Nid yw tocynnau’n ad-daladwy.
Theatr Mwldan yw’r unig fan lle cewch brynu tocynnau ar gyfer y digwyddiadau hyn. Gellir prynu tocynnau wrth y drws, ond mae hyn yn hollol ddibynnol ar argaeledd. Argymhellwn archebu tocynnau o flaen llaw i osgoi cael eich siomi.
Am wybodaeth am y Castell galwch 01239 615131.
GWYBODAETH TOCYNNAU
Caiff eich tocyn ei sganio wrth y fynedfa ar gyfer y digwyddiadau hyn:
Derbyniwn docynnau go iawn (os wnaethoch brynu tocynnau mewn person o’r Mwldan) Gallwn sganio eich archeb ar eich ffôn symudol Gallwch ddod â’ch tocyn ‘printio gartref’ (PWYSIG – sicrhewch pan fyddwch yn printio eich tocynnau eich bod yn defnyddio’r ddolen ‘Click Here To Print Your Tickets’ sy’n cynnwys y codau QR, ac NID y ‘crynodeb tudalen’) Gallwch gasglu eich tocyn ar y nosonBydd gan bob tocyn ar gyfer y digwyddiadau hyn god QR (fel cod bar) sy’n unigryw i’r unigolyn, a gellir ond ei ddefnyddio unwaith.
Sicrhewch eich bod yn gofalu am eich tocyn(nau) argraffu gartref fel unrhyw docyn arall. Mae gan bob tocyn cod QR unigryw y caiff ei sganio wrth y fynedfa i’r digwyddiad.
Os gwneir copïau o’r tocyn, dim ond y tocyn a ddefnyddir ar gyfer y sgan cyntaf o’r cod bar caiff fynediad.
Os ydyw’r cod bar unigryw eisoes wedi ei sganio, tynnir sylw’r gwasanaethydd a ni chaniateir mynediad.