Dylan Fowler: Guitar Journeys

Mae’r gitarydd o Gymru, Dylan Fowler, wedi datblygu gyrfa ryngwladol fel unawdydd trwy berthynas ugain mlynedd a mwy â’r label mawr o’r Almaen, Acoustic Music Records.

Ym mis Mai 2024 cafodd Ebb & Flow, ei albwm diweddaraf ar AMR ei ryddhau, a Dyma benllanw blynyddoedd lawer yn datblygu repertoire unigol sy’n cwmpasu ei ddylanwadau eclectig. Mae’r gerddoriaeth yn amrywio o gerddoriaeth Geltaidd Cymru ei wlad enedigol, i’w ‘deithiau’ llythrennol a throsiadol mewn cerddoriaeth sydd wedi ei dywys i wledydd y Balcanau, India, De America, Gogledd America a llawer o wledydd Ewrop.

Mewn perfformiadau, fe fydd yn eich tywys ar daith gerddorol sy’n ‘Llifo’ yn y math fodd fel bod alaw y Delyn Deires Gymreig yn eistedd yn berffaith wrth ymyl darn gan y gwych Keith Jarrett.

£14 (£12)

Browse more shows tagged with: