Bob Harris OBE In Conversation With Martyn Joseph: An Evening Of Stories And Music
Bob Harris OBE yn sgwrsio â Martyn Joseph: Noson o straeon a cherddoriaeth.
Does dim angen cyflwyno “Whispering” Bob Harris: Darlledwr, awdur a chyflwynydd o fri sydd wedi arwain trac sain miliynau o bobl dros yrfa sy’n rhychwantu bron i 50 mlynedd. Mae ganddo enw da ledled y byd fel un o ddarlledwyr mwyaf dibynadwy a dylanwadol ei genhedlaeth – cafodd ei ddisgrifio gan y Radio Times fel “…un o fawrion darlledu cerddoriaeth gyfoes Prydain” a gan The Mail On Sunday fel “trysor cenedlaethol.”
Mae Martyn Joseph y canwr cyfansoddwr gwobrwyedig o Gymru, hefyd yn cael ei ddisgrifio gan gylchgrawn MOJO fel “Trysor cenedlaethol Cymru” sy’n “un o berfformwyr mwyaf carismatig a thrydanol Prydain heddiw”, yn ôl Tom Robinson. Mae albwm diweddaraf Martyn, “1960”, wedi bod yn Siart Gwerin y DU am y rhan fwyaf o'r 18 mis diwethaf.
Mae Bob a Martyn wedi bod yn ffrindiau ers blynyddoedd lawer ac mae’r sioeau hyn yn eu cyflwyno ar y llwyfan gyda’i gilydd am noson o sgwrsio a cherddoriaeth, a thrwy ei sgyrsiau didwyll ar y llwyfan gyda Martyn, mae Bob yn rhannu straeon a hanesion o bob rhan o’i yrfa ddisglair.
£25