AMPLIFY - MWYHAU

Fflach Cymunedol – Mwldan – Community Music Wales yn cyflwyno / presents...

AMPLIFY : MWYHAU

Mae’r dathliad hwn o dalent gerddorol newydd o orllewin Cymru yn gwahodd artistiaid a bandiau o’n hardal leol i fynd wyneb yn wyneb â’i gilydd i ennill slot perfformio ar y Llwybr Cerdd yn Lleisiau Eraill Aberteifi ym mis Hydref 2025. Bydd yr enillydd hefyd yn derbyn amser recordio yn Stiwdio Fflach Gymunedol a sesiwn datblygiad proffesiynol a ddarperir gan Gerdd Gymunedol Cymru. Yn dilyn Galwad Agored, bydd wyth artist/band yn cael eu dewis, o unrhyw a phob genre cerddorol i berfformio set 20 munud yr un o flaen cynulleidfa fyw a phanel annibynnol o feirniaid a fydd yn dewis dau enillydd – un Gymraeg ac un Saesneg. Bydd yr enillwyr lwcus yn cael eu cyhoeddi ar ddiwedd y noson, ac yn ogystal â hynny i gloi'r noson bydd set DJ (TBA). Dewch i fwynhau noson wych sy’n cynnwys y gorau o dalentau lleol, a chefnogwch eich hoff fand!

£10

Gwneud Cais Yma

 

Browse more shows tagged with: