NT LIVE: THE IMPORTANCE OF BEING EARNEST (12A TBC)

Yn ymuno â Sharon D Clarke, sydd wedi ennill Gwobr Olivier deirgwaith, fydd Ncuti Gatwa (Doctor Who; Sex Education) yn yr ail-ddehongliad llawen hwn o gomedi enwocaf Oscar Wilde.

Wrth gymryd arno rôl y gwarcheidwad gofalus yn y wlad, mae Jack yn mynd yn wyllt yn y dref o dan enw ffug. Yn y cyfamser, mae ei ffrind Alga yn mabwysiadu ffug hunaniaeth debyg. Gan obeithio gwneud argraff dda ar ddwy foneddiges priodadwy, rhaid i’r boneddigion droedio’n ofalus trwy’r celwyddau maen nhw wedi’u rhaffu.

Max Webster (Life of Pi) sy’n cyfarwyddo’r stori ddoniol hon am hunaniaeth, dynwared a rhamant, wedi’i ffilmio’n fyw o’r National Theatre yn Llundain.

Mae hwn yn recordiad o berfformiad byw.

£15 (£14)