NT Live: Angels In America - Part 2, Perestroika (15 tbc)
DANGOSIAD ENCORE (AIL-BERFFORMIAD) O BERFFORMIAD A GIPIWYD YN FYW AR GORFFENNAF 27.
Yr Unol Daleithiau yng nghanol yr 80au. Ymysg yr argyfwng AIDS a llywodraeth geidwadol Reagan, mae trigolion Efrog Newydd yn brwydro yn erbyn bywyd a marwolaeth, cariad a rhyw, nefoedd ac uffern.
Gydag Andrew Garfield (Silence, Hacksaw Ridge) yn chwarae rhan Prior Walter, a chast yn cynnwys Denise Gough (People, Places and Things), Nathan Lane (The Producers), James McArdle (Star Wars: The Force Awakens) a Russell Tovey (The Pass).
Mae cynhyrchiad newydd drama dau ran Tony Kushner yn cael ei chyfarwyddo gan Marianne Elliott (The Curious Incident of the Dog in the Night-Time a War Horse).
£12.50 (£11.50)