Met Opera: Turandot (Puccini)
BROADCAST EVENT
Dychwela cynhyrchiad syfrdanol Franco Zeffirelli i sinemâu gyda Christine Goerke, y soprano a chanddi lais nerthol yn cymryd y brif ran, sef y Dywysoges finiog, yn benderfynol o beidio byth â chael ei meddiannu gan ddyn.
Mae Calaf, cariadfab anhysbys sy’n cael ei chwarae gan y tenor Roberto Aronica, sy’n canu’r aria enwog “Nessun dorma”, yn gwirioni ar y Dywysoges oeraidd, gan dyngu peryglu ei fywyd wrth geisio ateb y tri phos heriol sy’n addo datgloi ei chalon. Yannick Nézet-Séguin, Cyfarwyddwr Cerddorol y Met, sy’n arwain y cynhyrchiad grymus hwn am gariad, colled a ffyddlondeb.
£16 (£15)
![](https://mail.mwldan.cymru/sites/default/files/styles/logo/public/logos/HD10%20Title%20Treatment%20Black%20BKD%201_2.jpg?itok=EO2VKM4B)