ANDRÉ RIEU 75TH BIRTHDAY SPECIAL – THE DREAM CONTINUES (PG TBC)

Mae André Rieu bellach wedi cael ei ben-blwydd yn 75 oed ac mae’n eich gwahodd i ymuno ag ef i ddathlu’r achlysur wrth iddo hwylio trwy ei dref enedigol, Maastricht, ar gwch hardd gyda’i Gerddorfa Johann Strauss annwyl wrth ei ochr. 

Mae ein rhaglen sinema newydd sbon yn deyrnged i freuddwyd plentyndod André o ffurfio ei gerddorfa ei hun a theithio’r byd. Mae’r ffilm yn cynnwys detholiad o hoff berfformiadau André yn ystod ei deithiau byd-eang a rhai o eiliadau gorau Cerddorfa Johann Strauss gyda’r maestro. 

 Nid yw’r rhan fwyaf o’r cyngherddau hyn erioed wedi’u dangos ar y sgrin fawr o’r blaen, felly dyma’ch cyfle i weld clasuron eiconig André am y tro cyntaf. Mae'n ddathliad mawr – felly dewch i ymuno â ni wrth i ni ddod â pharti pen-blwydd bythgofiadwy i'r sinemâu!

Mae hwn yn recordiad o berfformiad byw.

£18 (£17)