NOSFERATU (15)

Robert Eggers | Czech Republic | United States | 2025 | 132’

Stori gothig yw Nosferatu gan Robert Eggers am obsesiwn rhwng merch ifanc ofnus a’r fampir brawychus sydd wedi gwirioni arni, gan achosi arswyd di-ben-draw yn ei sgil. Mae’r ffilm wedi’i hysbrydoli gan Nosferatu: A Symphony of Horror, ffilm fampir Fynegiadol fud Almaenaidd o 1922, campwaith sydd wedi cael dylanwad enfawr ar ddiwylliant modern a ffilmiau arswyd heddiw. Gydag Aaron Taylor-Johnson, Emma Corrin, Nicholas Hoult a Willem Dafoe.

£8.40 (£7.70) (£5.90)

Caiff y ffilm hon ei dangos gydag isdeitlau ar Nos Fawrth 21 Ionawr @ 7.00pm

RHYBUDD. Nid yw'r hysbyslun hwn yn addas ar gyfer cynulleidfaoedd iau 

Mae'r holl ffilmiau a restrir isod yn cynnwys Sain Ddisgrifio a Sain Atgyfnerthu

Browse more shows tagged with: