MARIA (12A)
Pablo Lorrain | Italy | Germany | USA | 2024 | 124'
Mae MARIA, y ffilm newydd gan gyfarwyddwr Jackie a Spencer, yn adrodd stori drawiadol, ysblennydd y gantores opera eiconig Maria Callas. Paris, 1977: A hithau ar un adeg yn soprano orau’r byd, mae Callas bellach yn cuddio mewn fflat, ar ôl iddi golli ei llais ac encilio o’r byd. Mae’n breuddwydio am ddychwelyd i’r llwyfan, ond a all ei chorff a’i meddwl gymryd y pwysau? Gan gynnwys rhai o recordiadau gorau Callas a gyda’r seren Angelina Jolie yn rhoi perfformiad sy’n haeddu Oscar, drama foethus yw MARIA sy’n taro’r cywair cywir.
£8.40 (£7.70) (£5.40)