KRAVEN THE HUNTER (15)

J.C. Chandor | USA | 2024 | 127’

Yn y comics Marvel, roedd Kraven yn uchelwr o Rwsia a ddaeth yn heliwr brwd anifeiliaid mawr ac, ar ôl meistroli'r gamp, dewisodd Spider-Man fel ei darged er mwyn gwneud ei hun yn heliwr gorau'r byd. Yn y stori wreiddiol, llawn cyffro hon, gwelwn y berthynas gymhleth rhwng Kraven (Aaron Taylor-Johnson) a'i dad didostur, Nikolai Kravinoff (Russell Crowe), a sut mae'n cychwyn ar lwybr o ddial gyda chanlyniadau creulon, gan ei ysgogi i ddod nid yn unig yr heliwr gorau yn y byd, ond hefyd yn un o'r rhai a ofnir fwyaf.

£8.40 (£7.70) (£5.90)

Caiff y ffilm hon ei dangos gydag isdeitlau ar Nos Fercher 8 Ionawr @ 8.00pm 

RHYBUDD. Nid yw'r hysbyslun hwn yn addas ar gyfer cynulleidfaoedd iau 

Mae'r holl ffilmiau a restrir isod yn cynnwys Sain Ddisgrifio a Sain Atgyfnerthu

Browse more shows tagged with: