DOG MAN (U)

Peter Hastings | USA | 2024 | 89’

Pan mae ci a heddwas yn cael eu hanafu gyda'i gilydd yn y gwaith yn y ffilm nodwedd animeiddiedig deuluol newydd hon gan Dreamworks, mae llawdriniaeth yn achub bywyd ac yn newid hanes pan gaiff Dog Man ei eni. Hanner ci, hanner dyn, mae Dog Man yn tyngu llw i amddiffyn a gwasanaethu - cyn belled nad yw gwiwerod yn tynnu ei sylw, wrth iddo fynd ar drywydd ei arch-elyn: y dihiryn cathaidd Petey the Cat. Ond amharir ar y gystadleuaeth rhwng Dog Man a Petey gan ddyfodiad Lil Petey, cath fach annwyl sy’n glôn o Petey, sy’n newid y cwbl i'r ddau ohonyn nhw.

£8.40 (£7.70) (£5.90)

Caiff y ffilm hon ei dangos gydag isdeitlau ar Nos Sul 16 Chwefror @ 6.15pm 

Dangosiad Hamddenol : Dydd Sadwrn 1 Mawrth @ 12.15