Ad-Daliadau a Chyfnewid
• Os ydych ddim yn medru mynychu perfformiad neu darllediad yr ydych wedi archebu tocynnau ar ei chyfer, fe allwch ddod yn ol a'ch tocynnau lan hyd at saith diwrnod cyn dyddiad y perfformiad ac fe fyddwn yn gallu rhoi nodyn credyd llawn atoch.
• Neu gallwn newid eich tocynnau ar gyfer perfformiad mwy cyfleus o'r un sioe neu ffilm, neu mewn achosion o dy llawn fe allwn gwneud ein gorau i ail-werthu eich tocynnau (ni allwn sicrhau y bydd hyn yn bosibl).
• Fe gynghorwn i chi gymryd sylw o dystysgrifau oedran ffilmiau i osgoi gael eich siomi, ni ellir gynnig ad-daliad os brynwch docynnau ar gyfer ffilm nad ydych o oedran i weld.
• Ni all tocynnau credyd/anrheg gael ei gyfnewid ar gyfer arian parod. Os caiff unrhyw eitem a gafodd ei brynu gyda thaleb ei gyfnewid neu ei ad-dalu, caiff unrhyw arian sy'n ddyledus ei ychwanegu at y balans ar y daleb.
***YN ARCHEBU TOCYNNAU AR GYFER DIGWYDDIAD YNG NGHASTELL ABERTEIFI NEU LLEISIAU ERAILL ABERTEIFI?***
- Cyfeiriwch at y dudalen digwyddiadau ar ein gwefan am wybodaeth hanfodol sy’n benodol i’r digwyddiad megis trefniadau eistedd, addasrwydd oed, gwybodaeth am arlwyo ac ati.
- Caiff wybodaeth hanfodol bellach mewn perthynas â'ch digwyddiad ei hanfon atoch yn agosach at y dyddiad. Cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach mewn perthynas â’r digwyddiad rydych wedi archebu tocynnau ar ei gyfer.
- Mae termau ac amodau tocynnu arferol Theatr Mwldan hefyd yn gymwys i ddigwyddiadau yng Nghastell Aberteifi.