Wales: 100 Records (Lansiad Llyfr Huw Stephens)
Ymunwch â Huw Stephens ar gyfer lansiad ei lyfr diweddaraf - Wales: 100 Records.
Bydd Huw yn siarad am y llyfr ac yn chwarae ychydig o gerddoriaeth.
Mae Wales: 100 Records yn cynnig gwybodaeth eang ac amrywiol ar gerddoriaeth Gymreig, ac am recordiau arloesol Cymru gan adlewyrch dyfnder tirlun cerddorol y wlad. Trwy ysgrifau byr, hawdd i’w ddarllen a lluniau gloyw o bob record, mae’r darlledwr Huw Stephens (BBC Radio 6Music / BBC Radio 4/ BBC Radio Cymru / Other Voices Festival) yn cyflwyno darlun disglair o ysbryd amharchus Cymru, a’i thapestri o artistiaid cerddorol sydd wedi gwneud argraff drwy albymau a gyhoeddwyd yn y Gymraeg a’r Saesneg.
Mae Huw Stephens yn archwilio’n frwdfrydig gyfnodau pwysig yn y llyfr yma, gan amlygu llwyddiannau byd-eang Tom Jones, Bonnie Tyler a Shirley Bassey, yn taflu goleuni ar faint a dylanwad trymion Cool Cymru gan gynnwys Manic Street Preachers, Stereophonics, Gorky’s Zygotic Mynci, Catatonia a Super Furry Animals; dylanwad geiriau caneuon gwleidyddol Dafydd Iwan, Datblygu, a Hogia’r Wyddfa; artistiaid cyfoes llawn gweledigaeth fel Cate Le Bon, Public Service Broadcasting, Duffy, Deyah, H. Hawkline a Gwenno; gwaith arbrofol Underworld, Kelly lee Owens a Llwybr Llaethog; hip hop lleol yn cynnwys Goldie Lookin Chain, Mace the Great a Me One a llawer mwy.
Mae’r cyflwyniad cynhwysfawr o recordiau Cymreig yn tynnu ar yrfa eang Stephens sydd mor flaenllaw yn y diwydiant cerddoriaeth, yn byrlymu gyda brwdfrydedd a balchder dros etifeddiaeth gyfoethog gerddorol Cymru. Yn llawn ffeithiau a myfyrdodau ar bob record, mae Wales: 100 Records yn ddarllen hanfodol i bawb sy’n ymddiddori mewn cerddoriaeth.
Digwyddiad am ddim / does dim angen tocyn.
Bydd y llyfr ar gael i'w brynu yn ystod y digwyddiad.