Catrin Finch and Seckou Keita @ Y TABERNACL, MACHYNLLETH (2022)
CYNHYRCHIAD Y MWLDAN
Bydd y ddeuawd gwobrwyedig Catrin Finch a Seckou Keita yn teithio’r DU yn 2022 i ddathlu pen-blwydd yn ddeg oed eu cydweithrediad cerddorol ysbrydoledig sy’n cyfuno Cymru a Senegal, y delyn a'r kora, y clasurol a’r traddodiadol, diwylliannau gwahanol a dynoliaeth gyffredin.
Caiff yr achlysur ei farcio dwy rhyddhau ECHO, trydydd albwm y deuawd ym mis Mai 2022, buddugoliaeth dyner partneriaeth hynod, a ddisgrifir fel “un o actau cerddoriaeth byd mwyaf poblogaidd y degawd hwn” (Songlines), sydd wedi gwefreiddio cynulleidfaoedd yn eu miloedd.
Mae Catrin yn canu’r delyn, a Seckou y kora o Orllewin Affrica, dau offeryn yn rhannu hanes hynafol o adrodd straeon ac adloniant llys a drosglwyddwyd ar hyd cenedlaethau. Wedi’u hysbrydoli gan eu cysylltiadau a’u gwreiddiau eu hunain, mae Catrin a Seckou yn creu rhywbeth sy'n gwbl bersonol iddyn nhw, gan gyflwyno deialog unigryw o ddiwylliannau a chynghrair gerddorol o empathi prin.
Mae eu dau albwm blaenorol, Clychau Dibon (2013) a SOAR (2018), wedi ennill sawl gwobr a chafodd Catrin a Seckou eu henwi fel Deuawd/Band Gorau yng Ngwobrau Gwerin diweddaraf BBC Radio 2. Mae eu hud atmosfferig yn croesi ffiniau genre, o werin a byd i glasurol a chyfoes wrth i’w bysedd lifo fel llednentydd gwrthwynebol i mewn i un afon o sain.
£20