Barbara Nice: Raffle!
COMEDI YNG NGHASTELL ABERTEIFI
Ymunwch â Barbara Nice, hoff wraig ty Fringe Caeredin, am noson o hwyl a sbort. Dewch i gwrdd â’r cymeriad comedi beirniadol clodfawr – creadigaeth Janice Connolly, actores a chomedïwr Phoenix Nights. Sioe chwareus galonogol i’r teulu oll gan gynnwys y cyfle i ennill gwobr oddi ar fwrdd Barbara. Bydd Barbara yn siwr o roi gwên ar eich wyneb a sbonc yn eich cam gyda’r sioe newydd hon am siawns a lwc. Pris mynediad yn cynnwys tocyn raffl!
PERFFORMIAD YN YR IATH SAESNEG
Yn addas i oedran 12+
Mae'r digwyddiad hwn yn rhan o'n Penwythnos o Gomedi 6-9 Gorffennaf
GWYBODAETH HANFODOL
Darperir seddau yn y digwyddiad hwn ar sail y cyntaf i’r felin.
Bydd mynediad ar gyfer pob un o’r digwyddiadau hyn trwy brif fynedfa’r castell. Bydd safle'r Castell ar agor o 4.30yp cyn sioeau comedi heno a bydd lluniaeth ar gael. Bydd y drysau yn agor hanner awr cyn i ddigwyddiad comedi gychwyn.
Nodir os gwelwch yn dda fod ‘na fynediad cadair olwyn i’r safle perfformio, ond nid oes unrhyw barcio cyhoeddus ar y safle.
Darperir man eistedd i gwsmeriaid â ganddynt symudedd cyfyngedig - cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau 01239 621 200 am fanylion os oes angen hyn arnoch.
Mae’r digwyddiadau hyn o dan do, ond dewch â dillad cynnes priodol gyda chi.
Nodwch os gwelwch yn dda - yn y digwyddiad hwn caniateir bwyd a diod caiff ei brynu yn y castell yn unig. Bydd bar a bwyd ar gael ar y noson.
Theatr Mwldan yw’r unig fan lle cewch brynu tocynnau ar gyfer y digwyddiadau hyn. Gellir prynu tocynnau wrth y drws, ond mae hyn yn hollol ddibynnol ar argaeledd. Argymhellwn archebu tocynnau o flaen llaw i osgoi cael eich siomi.
Ni fydd unrhyw ad-daliad am ddigwyddiadau yn y Castell. Cynhelir digwyddiadau ym mhob tywydd gan eithrio’r tywydd MWYAF garw.
Gallwch ffonio 01239 615131 am wybodaeth bellach am y Castell.
GWYBODAETH TOCYNNAU
Caiff eich tocyn ei sganio wrth y fynedfa ar gyfer y digwyddiadau hyn:
- Derbyniwn docynnau go iawn (os wnaethoch brynu tocynnau mewn person o’r Mwldan)
- Gallwn sganio eich archeb ar eich ffôn symudol
- Gallwch ddod â’ch tocyn ‘printio gartref’ (PWYSIG – sicrhewch pan fyddwch yn printio eich tocynnau eich bod yn defnyddio’r ddolen ‘Click Here To Print Your Tickets’ sy’n cynnwys y codau QR, ac NID y ‘crynodeb tudalen’)
- Gallwch gasglu eich tocyn ar y noson
Bydd gan bob tocyn ar gyfer y digwyddiadau hyn god QR (fel cod bar) sy’n unigryw i’r unigolyn, a gellir ond ei ddefnyddio unwaith.
Sicrhewch eich bod yn gofalu am eich tocyn(nau) argraffu gartref fel unrhyw docyn arall. Mae gan bob tocyn cod QR unigryw y caiff ei sganio wrth y fynedfa i’r digwyddiad.
Os gwneir copïau o’r tocyn, dim ond y tocyn a ddefnyddir ar gyfer y sgan cyntaf o’r cod bar caiff fynediad.
Os ydyw’r cod bar unigryw eisoes wedi ei sganio, tynnir sylw’r gwasanaethydd a ni chaniateir mynediad.