NT Live: Obsession (15)
DANGOSIAD ENCORE (AIL-BERFFORMIAD) O BERFFORMIAD A GIPIWYD YN FYW AR MAI 11.
Jude Law (The Young Pope, Closer, The Talented Mr Ripley) sy’n serennu yng nghynhyrchiad llwyfan Obsession, sydd wedi ei ddarlledu’n fyw o Theatr y Barbican yn Llundain. Ivo van Hove (NT Live: A View from the Bridge, Hedda Gabler) sy’n cyfarwyddo'r addasiad llwyfan newydd o ffilm 1943 Luchino Visconti.
Mae Gino yn grwydryn, yn flêr ond yn ddeniadol tu hwnt. Mewn bwyty ar ochr y ffordd, cyfarfu a gŵr a gwraig, Giuseppe a Giovanna. Wedi eu denu’n anorchfygol at ei gilydd, mae Gino a Giovanna’n dechrau perthynas angerddol ac yn cynllwynio i lofruddio ei gŵr. Ond, yn y stori iasol hon am angerdd a dinistr, mae’r drosedd ond yn llwyddo i’w rhwygo ar wahân.
Caiff cynhyrchiad llwyfan Obsession ei gynhyrchu gan Gynyrchiadau Theatr Cyfyngedig y Barbican Llundain a Toneelgroep Amsterdam; wedi ei gyd-gomisiynu gan Wiener Festwochen a Les Théâtres de la Ville de Luxembourg; wedi ei gyd-gynhyrchu gan Holland Festival a Chynyrchiadau David Binder; ac wedi ei gefnogi gan Lysgenhadaeth Frenhiniaeth yr Iseldiroedd.