Minari (12A)

Lee Isaac Chung | US |2020 | 115’

Mewn stori dyner ac ysgubol am yr hyn sy’n ein gwreiddio ni, mae Minari’n dilyn teulu Coreaidd-Americanaidd sy’n symud i fferm fach yn Arkansas i chwilio am eu Breuddwyd Americanaidd eu hunain. Mae cartref y teulu’n newid yn llwyr pan fydd eu mam-gu slei, reglyd, ond annwyl iawn yn cyrraedd. Yng nghanol ansefydlogrwydd a heriau’r bywyd newydd hwn yn nhir garw mynyddoedd yr Ozark, mae Minari’n arddangos gwydnwch teuluol heb ei ail, a beth sy’n creu cartref go iawn.

£7.70 (£5.90)

** Archebu tocynnau o flaen llaw yn hanfodol. Archebu ar lein 24/7 mwldan.co.uk. Swyfddfa docynnau (ffÔn yn unig) Dydd Mawrth - Dydd Sul 2-4pm 01239 621 200**

Mae dangosiadau y Gymdeithas Ffilm am ddim i Aelodau y Gymdeithas Ffilm!

Bydd aelodau ac aelodau cysylltiol hefyd yn derbyn disgownt sylweddol oddi ar brisiau dangosiadau arferol (heb fod yn ddangosiadau CFfThM) yn y Mwldan. e-bostiwch tmfsfilms@gmail.com neu cliciwch yma i weld sut gallwch fwynhau mwy o ffilmiau am lai o arian. 

O dan yr amgylchiadau presennol, ar hyn o bryd nid yw seddi ar gyfer dangosiadau sinema yn cael eu dyrannu wrth i chi archebu tocynnau. Bydd seddi’n cael eu dyrannu i chi gan aelod o staff ar ôl i chi gyrraedd y Mwldan.

Os oes gennych unrhyw geisiadau am seddi (e.e. cais o ran symudedd, neu gais i eistedd wrth ymyl person arall), rhowch wybod i ni gan ddefnyddio'r blwch sylwadau sydd i'w weld ar waelod adran 'Eich Manylion' yn y broses archebu tocynnau.