Happening (15)

Audrey Diwan | France | 2021 | 100’

Mae Anne yn fyfyrwraig ifanc ddisglair gyda dyfodol addawol o'i blaen. Pan mae’n beichiogi yn Ffrainc y 1960au, lle mae cael erthyliad yn anghyfreithlon, mae’n gweld y cyfle i orffen ei hastudiaethau a dianc rhag cyfyngiadau ei chefndir cymdeithasol yn diflannu. Gyda’i harholiadau terfynol yn prysur agosáu a’i bol yn tyfu, mae Anne yn penderfynu gweithredu, hyd yn oed os oes rhaid iddi wynebu cywilydd a phoen, hyd yn oed os yw gwneud hynny yn arwain at garchar...

£7.70 (£5.90)