RYAN YOUNG

Mae Ryan Young, a enwebwyd ar gyfer gwobr Cerddor y Flwyddyn MG ALBA 2022, yn dod â syniadau newydd a chyffrous i gerddoriaeth draddodiadol yr Alban, gan dderbyn canmoliaeth ryngwladol am ei ddehongliadau swynol ar y ffidil. Recordiwyd ei albwm cyntaf gyda Jesse Lewis, enillydd pedair GRAMMY (sydd wedi gweithio gyda phobl fel Bela Fleck ac Yo Yo Ma), a’i lansio yng Ngŵyl Cerddoriaeth Draddodiadol Feakle yn Swydd Clare, yng nghwmni’r gitarydd enwog, Dennis Cahill (Martin Hayes; The Gloaming). 

 Gan ganolbwyntio ar gerddoriaeth draddodiadol yr Alban, mae Ryan yn dod â bywyd newydd i alawon hen iawn, sy’n aml wedi’u hanghofio, trwy eu chwarae yn ei ffordd unigryw ef ei hun. Mae ei chwarae ffidil yn frith o syniadau melodig newydd, egni rhythmig dyrchafol a dyfnder gwych o ddeinameg a manwl gywirdeb. Mae ei sain yn unigryw iawn ac yn arwain y gwrandäwr ar daith emosiynol ac anturus mewn unrhyw berfformiad. 

 Mae gan Ryan radd dosbarth cyntaf a hefyd gradd Meistr o Gonservatoire Brenhinol yr Alban. Cyrhaeddodd rownd derfynol Gwobrau Gwerin Ifanc BBC Radio 2 ddwywaith a rownd derfynol Cerddor Ifanc Traddodiadol y Flwyddyn BBC Radio Scotland ddwywaith hefyd. Dyfarnwyd ‘Artist ar gyfer y Dyfodol y Flwyddyn’ iddo yng Ngwobrau Scots Trad yn 2017, cafodd ei enwebu ar gyfer Gwobr Horizon yng Ngwobrau Gwerin BBC Radio 2 yn 2018, a dyfarnwyd teitl Cerddor y Flwyddyn Folking.com iddo hefyd yn 2018. 

 Mae enwebiadau pellach ar gyfer Gwobrau Cerddoriaeth MG Alba Scots Trad yn cynnwys Albwm y Flwyddyn, a Band Gwerin y Flwyddyn. Yn ogystal, Ryan Young oedd yr unig artist o’r DU a ddewiswyd i berfformio yng nghynhadledd fawreddog Cerddoriaeth y Byd, WOMEX, yn 2019.

£15

.....the wonderful sound just takes flight, soars and swoops
Folk Wales Magazine
....Uniquely graceful and expressive playing. A future star of the Scottish fiddle world
Aidan O’Rourke (Lau)
....leading the ‘New Wave’ of traditional Scottish fiddlers, virtuoso Ryan Young
BBC World on 3
...a force of nature” ***** (5 STARS)
The Scotsman

Browse more shows tagged with: