KIRI PRITCHARD-MCLEAN: PEACOCK (2024)

Mae’r blynyddoedd diwethaf wedi bod yn rhai prysur i Kiri Pritchard-McLean, seren 8 out of 10 Cats Does Countdown, Have I Got News For You a QI. Yn ogystal â chyflwyno Live at the Apollo, arwain rhaglen banel Radio 4, Best Medicine a dechrau ysgol gomedi, mae hi wedi dod yn rhiant maeth.

Doeddech chi ddim yn gwybod hynny amdani? Wel, hyd yn hyn nid yw hi wedi gallu siarad am y peth ar y llwyfan, nid yw hi hyd yn oed wedi dweud wrth y plant yn ei gofal mai digrifwraig yw hi. O, ac mae hi'n defnyddio enw gwahanol - hi yw Bruce Wayne byd comedi, ond heb y plastai.

Fodd bynnag, newidiodd rhywbeth eleni, ac yn dilyn rhai o gigs mwyaf anghysurus ei gyrfa mewn ystafelloedd bwrdd i weithwyr cymdeithasol, mae sioe am ddod yn ofalwr maeth wedi cael ei chymeradwyo! Felly, dewch i ymuno â “Louise” wrth iddi agor cil y drws ar weithwyr cymdeithasol, hyfforddiant cymorth cyntaf a beth i beidio â’i wneud pan mae ficer yn chwilio amdanoch ar YouTube.

Ymunwch â chyd-luniwr a chyd-westeiwr y podlediad cwlt poblogaidd All Killa No Filla ar gyfer sioe lawen a dyrchafol gan ddigrifwraig sy’n adnabyddus am wneud "powerhouse stand-up from the thorniest of subjects" (The Guardian).

"expect sequins, social commentary, and massive laughs from the renaissance woman of UK comedy" (Rolling Stone)

£16 (£14)

 

Credyd Llun: Drew Forsyth 

 

Canllaw oedran: 15+

95 muned gyda egwyl o 20 muned

Browse more shows tagged with: