BBC RADIO 3: NEW MUSIC SHOW

Mae’r New Music Show ar BBC Radio 3 yn cynnal cyngerdd o gerddoriaeth gyfoes, gan gynnwys pedair set gan artistiaid blaenllaw yn genres cerddoriaeth avant garde, byrfyfyr ac arbrofol, gyda thipyn o sylw hefyd i’r traddodiadau gwerin dwfn. 

O Ddulyn, Iwerddon, daw Caoimhin O Raghallaigh â'i ffidil ryfeddol â deg tant (a elwir yn hardanger d'amore) i greu cerddoriaeth werin gyfareddol gyda thriniaethau electronig byw. 

Mae Jenn Kirby yn un o sylfaenwyr nid un, ond dwy Gerddorfa Gliniadur (yn Abertawe a Dulyn); ar gyfer y gig hon mae hi'n perfformio'n unigol, gan ganu a defnyddio’r electroneg byw. Mae Jenn wedi datblygu offerynnau cerdd hybrid, gan ddefnyddio meddalwedd, synwyryddion a rheolyddion wedi'u hail-bwrpasu, fel bod ei symudiadau corfforol hi ar y llwyfan yn llunio ac yn cyfarwyddo'r seiniau electronig byw. 

Mae Rhodri Davies, sy'n byw yng Nghymru, yn enwog am ei waith byrfyfyr ar y delyn. Er iddo dderbyn hyfforddiant clasurol ar y delyn bedal gerddorfaol, mae diddordeb Davies wedi mynd y tu hwnt i gonfensiynau’r offeryn hwnnw ers tro. Mae wedi canu telynau o ystod o ddiwylliannau; wedi addasu eu seiniau gyda bwa, paratoadau a mwyhau; wedi eu hadeiladu; wedi creu gosodiadau telyn darniog ac wedi dinistrio tannau di-rif, ac weithiau mwy, wrth berfformio. 

George Barton (offerynnau taro) a Siwan Rhys (piano) yw’r GSBR Duo, dau o gerddorion siambr cyfoes ifanc gorau’r DU. Mae’r ddeuawd wedi adeiladu ei henw da ar gyfuniad o ddehongliadau eithriadol o’r repertoire offerynnau taro-piano presennol, perfformiadau ymroddedig o gomisiynau newydd uchelgeisiol, a chydweithrediadau dyfeisgar.

Bydd y sioe yn cael ei recordio i’w darlledu ar Radio 3 yn y dyfodol.

AM DDIM. Mae archebu tocynnau ymlaen llaw yn hanfodol ar gyfer digwyddiad hwn. 

Lluniau gan Damian Griffiths.

Browse more shows tagged with: