NT Live: PRIMA FACIE (15 AS LIVE)

Mae Jodie Comer (Killing Eve) yn gwneud ei hymddangosiad cyntaf yn y West End yn y perfformiad cyntaf yn y DU o ddrama wobrwyedig Suzie Miller. Mae Tessa yn fargyfreithwraig ifanc, ddisglair. Mae hi wedi gweithio ei ffordd i fyny o wreiddiau dosbarth gweithiol i fod ar frig ei phroffesiwn; yn amddiffyn; yn croesholi ac yn ennill. Mae digwyddiad annisgwyl yn ei gorfodi i wynebu'r llinellau lle mae pŵer patriarchaidd y gyfraith, y baich profi a moesau yn ymwahanu. Mae Prima Facie yn mynd â ni i ble mae emosiwn a phrofiad yn gwrthdaro â rheolau'r gêm. Justin Martin sy’n cyfarwyddo’r campwaith unigol hwn, wedi’i recordio’n fyw o Theatr Harold Pinter yn West End Llundain.

£12.50 (£11.50)

Browse more shows tagged with: