WE LIVE IN TIME (15)

John Crowley | France | UK | 2024 | 107’

Mae Almut (Florence Pugh) a Tobias (Andrew Garfield) yn cwrdd mewn ffordd annisgwyl sy’n newid eu bywydau. Trwy gipluniau o'u bywyd gyda'i gilydd – syrthio mewn cariad, creu cartref, dod yn deulu - caiff gwirionedd anodd ei ddatgelu sy'n siglo ei sylfaen. Wrth iddynt gychwyn ar lwybr sy’n cael ei herio gan derfynau amser, maen nhw’n dysgu mwynhau pob eiliad o’r llwybr anghonfensiynol y mae eu stori serch wedi’i gymryd. Gan y gwneuthurwr ffilmiau John Crowley, dyma i chi ffilm ramant hynod deimladwy sy’n ymestyn dros ddegawd.

£8.40 (£7.70) (£5.90)

Caiff y ffilm hon ei dangos gydag isdeitlau ar Nos Fawrth 14 Ionawr @ 7.45pm