Sorry We Missed You (15)

Ken Loach | UK | France | Belgium | 2019 | 100’

Gan y cyfarwyddwr Ken Loach daw’r archwiliad grymus hwn i fyd cyfoes gwaith, yr economi o gytundebau byr a gwaith achlysurol a’r heriau a wynebir gan un teulu sy’n ceisio cadw popeth ynghyd. Mae’n adrodd hanes teulu sy’n brwydro yn erbyn dyled ers chwalfa ariannol 2008 a’u hymdrechion i adfer ychydig o annibyniaeth ar ôl i’r tad cael fan newydd a’r cyfle i redeg masnachfraint fel gyrrwr cludo hunangyflogedig.

£7.70